Wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth o’r radd uchaf i’n cleientiaid
Mae ein practis wedi hen ennill ei blwyf, a chawsom ein swyddfa wreiddiol yng Nghaerfyrddin nôl ym 1976. Yn ystod cyfnod o dros 30 mlynedd cynyddodd ein portffolio o gleientiaid yn sylweddol, o gleientiaid ym myd ffermio ac adwerthu yn bennaf i’r sbectrwm eang o fasnach a phroffesiynau a wasanaethir gennym heddiw.
Wedi i ni anghyfuno fel cwmni yn 2004 aethom ati i ail-frandio gan nodi’n glir mai’r ffordd orau o wasanaethu anghenion ein cleientiaid oedd cael tîm personol a phroffesiynol o Gyfrifwyr lleol.
Yn Clay Shaw Butler rydym yn parhau i adeiladu ar ein henw da am ddarparu cyngor ardderchog a gwasanaeth o’r radd uchaf i’n busnesau a’n cleientiaid personol. Mae gennym lawer o gleientiaid yn y gymuned leol ynghyd â busnesau gwasanaeth bach a mawr ar draws sawl sector gan gynnwys:
Yn ogystal â sgiliau cyffredinol mewn cyfrifeg, archwilio a threth, mae gan ein staff cymwysedig a phrofiadol sgiliau arbenigol unigol sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth o’r radd uchaf i’n cleientiaid yn ôl y gofyn. Gyda’n hystod eang o brofiad rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cyflwyno gwasanaeth heb ei debyg i’n holl gleientiaid, beth bynnag yw eu maint neu ym mha sector bynnag y maent.
Ynghyd â gwasanaethau traddodiadol ym meysydd archwilio, cyfrifyddu a chydymffurfio â threth, rydym hefyd yn rhoi cyngor ynghylch sut i wella a datblygu eich busnes. P’un a oes angen strategaeth fusnes integredig arnoch, cyngor ynghylch bancio cyllid corfforaethol, broceriaeth neu gyngor arbenigol ynglŷn â threth, rydym yma i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Mae gennym dîm o 22 o staff proffesiynol a gaiff eu hannog ar bob cyfle i ddatblygu i’w potensial llawn. Cawsom gydnabyddiaeth o hyn drwy ennill Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2005.
Mae ein staff yn gwbl gyfarwydd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd cyfrifyddu, ac yn arbennig rydym yn Bartneriaid Busnes Sage llawn. Mae gennym arbenigwyr sy’n medru helpu ein holl gleientiaid drwy roi cymorth a hyfforddiant iddynt.
Mae ein pobl yn cynnwys Cyfrifwyr Siartredig Cymwysedig, Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, Ymgynghorwyr Treth Siartredig, staff uwch profiadol, Technegwyr Cyfrifyddu, Cyfrifwyr dan Hyfforddiant a thîm cymorth gweinyddol amhrisiadwy.
Galwch heibio heddiw am sgwrs a phaned am ddim!
|